Share page | Visit Us On FB |
O deued pob Cristion i Fethlem yr awron,
I weled mor dirion yw'n Duw;
O ddyfnder rhyfeddod! fe drefnodd y Duwdod
Dragwyddol gyfamod i fyw!
Daeth Brenin yr hollfyd i oedfa ein hadfyd
Er symud ein penyd a'n pwn;
Heb le yn y Ilety, heb aelwyd, heb wely,
Nadolig fel hynny gadd hwn!
Rhown glod i'r Mab bychan, ar liniau Mair wiwlan
Daeth Duwdod mewn Baban i'r byd!
Ei ras, O derbyniwn; ei haeddiant cyhoeddwn,
A throsto ef gweithiwn i gyd.
Tywysog tangnefedd wna'n daear o'r diwedd
Yn aelwyd gyfannedd i fyw;
Ni fegir cenfigen na chynnwrf na chynnen,
Dan frodyr i'n gilydd, drigolion y gwledydd,
Cawn rodio yn hafddydd y nef;
Ein disgwyl yn Salem, i ganu yr anthem,
Ddechreuwyd ym Methl'em, mae ef.
Rhown glod i'r Mab bychan, ar liniau Mair wiwlan-
Daeth Duwdod mewn Baban i'r byd!
Ei ras, O derbyniwn! ei haeddiant cyhoeddwn,
A throsto ef gweithiwn i gyd.
This is a Christmas song. The usual English translation, which is in the (#34), begins , and is titled Poverty. There is a Japanese translation in �-�O, 1958.